Diweddariad gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Health and Social Care Committee update

 

Annwyl gyfaill

 

Gweler isod y wybodaeth ddiweddaraf am waith Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Senedd Cymru.

 

 

Dear colleague

 

Please see below update on the work of the Welsh Parliament Health and Social Care Committee.

 

 

Cefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig

 

 

Supporting people with chronic conditions

 

 

Diolch i bawb a ymatebodd I’n hymchwiliad i lefel ac ansawdd y cymorth sydd ar gael i bobl sydd â chyflyrau cronig.

 

Byddwn yn gwneud penderfyniadau ar gamau nesaf yr ymchwiliad hwn yn yr Hydref. Yn y cyfamser, mae’r ymatebion ar gael i’w darllen ar ein gwefan.

 

 

 

Thank you to everyone who responded to our inquiry into the level and quality of support for people living with chronic conditions.

 

We will be taking decisions on the next steps for the inquiry in the autumn. In the meantime, the responses are now available to read on our website.

 

 

Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016: Gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol

 

 

Nurse Staffing Levels (Wales) Act 2016: post-legislative scrutiny

 

 

Rydym yn edrych ar effaith ac effeithiolrwydd Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016, sy’n ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd gyfrifo a chynnal lefelau priodol o staff nyrsio ar wardiau meddygol acíwt i oedolion a wardiau llawfeddygol mewn ysbytai, yn ogystal â wardiau pediatreg.

 

Diolch i bawb a ymatebodd i rannu eu barn. Caiff yr ymatebion eu cyhoeddi ar ein gwefan yn fuan.

 

Yn ystod yr hydref, byddwn yn cyfarfod â nyrsys ac yn clywed tystiolaeth lafar mewn sesiynau ffurfiol.

 

Gallwch ddilyn ein gwaith ar wefan yr ymchwiliad.

 

 

 

 

We’re looking at the impact and effectiveness of the Nurse Staffing Levels (Wales) Act 2016, which requires health boards to calculate and maintain appropriate nurse staffing levels in adult acute medical and surgical hospital wards and paediatric ward.

 

 

 

Thank you to everyone who responded to share their views.

 

 

The responses will be published on our website soon.

 

During the autumn, we’ll be meeting nurses, and taking formal oral evidence.

 

You can follow our work on the inquiry webpage.

 

 

Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)

 

The Health Service Procurement (Wales) Bill

 

 

Ar 7 Mehefin 2023, gwnaethom drafod y gwelliannau a gyflwynwyd i Fil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru).

 

Mae trafodion Cyfnod 3 wedi’u gohirio tan yr hydref.

 

Mae rhagor o wybodaeth am y Bil a’r broses ddeddfwriaethol ar gael ar wefan y Senedd.

 

 

 

We considered amendments tabled to the Health Service Procurement (Wales) Bill on 7 June 2023.

 

Stage 3 proceedings have been postponed until the autumn term.

 

You can find more information about the Bill and the legislative process on the Senedd’s website.

 

Anghydraddoldebau iechyd meddwl

 

 

Mental health inequalities

 

 

Ar 3 Mai, trafododd y Senedd ein hadroddiad ar ymdrin ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru.

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen yr ymchwiliad ar y we, gan gynnwys y dystiolaeth a drafodwyd gennym, yn ogystal ag ymateb Llywodraeth Cymru i’n hargymhellion, barn ein grwp cynghori ar-lein a fu’n rhannu profiad bywyd a gwybodaeth am sut y gallwch wylio’r ddadl yn y Senedd os na chawsoch gyfle i wneud hynny ar y pryd.

 

 

 

On 3 May, the Senedd debated our report on tackling mental health inequalities in Wales.

 

 

You can find more information on the inquiry page, including the evidence we considered, the Welsh Government’s response to our recommendations, what our online lived experience advisory group thought about the response, and how you can watch the debate if you missed it.

 

 

Deintyddiaeth

 

Dentistry

 

 

Yn dilyn ein hadroddiad a gyhoeddwyd yn 2019, sef Dechrau Ffres: Ymchwiliad i ddeintyddiaeth yng Nghymru, gwnaethom gynnal ymchwiliad i ddeintyddiaeth i drafod a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i bontio’r bwlch o ran anghydraddoldebau ym maes iechyd y geg ac ailadeiladu deintyddiaeth yng Nghymru ar ôl y pandemig COVID-19, ac yng nghyd-destun costau byw cynyddol.

 

Cafodd ein hadroddiad, a oedd yn cynnwys cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru, ei gyhoeddi ym mis Chwefror. Cawsom ymateb gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill, a chyn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 21 Mehefin gwnaethom ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am eglurder ynghylch nifer o bwyntiau penodol.

 

Cawsom ymateb gan y Gweinidog ar  11 Gorffennaf.

 

 

 

 

Following on from the 2019 report A Fresh Start: Inquiry into dentistry in Wales, we  undertook an inquiry into dentistry to see whether the Welsh Government is doing enough to bridge the gap in oral health inequalities and rebuild dentistry in Wales following the COVID-19 pandemic and in the context of rising costs of living.

 

Our report, which made a series of recommendations to the Welsh Government was published in February. We received the Welsh Government’s response in April, and prior to a plenary debate on 21 June, we wrote to the Minister with several points of clarification.

 

The Minister responded on 11 July.

 

 

Gwerthusiad o Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol Cymru

 

 

Evaluation of Social Services and Well-being (Wales) Act 2014:

 

 

Ar 25 Mai 2023, gwnaethom gynnal cyfarfod ar y cyd â’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i drafod y gwerthusiad o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 gydag arbenigwyr academaidd.

 

Yn dilyn y cyfarfod hwn, lluniodd y ddau Bwyllgor ohebiaeth ar y cyd at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i nodi materion a godwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth.

 

 

 

On 25 May 2023, we held a concurrent meeting with the Public Accounts and Public Administration Committee to discuss the evaluation of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 with academic experts.

 

 

 

Following the meeting, the Committees wrote jointly to the Deputy Minister for Social Services to highlight issues raised during the evidence session.

 

 

Strategaeth y pwyllgor

 

 

Committee Strategy

 

Ym mis Chwefror 2023, gwnaethom adolygu ein strategaeth ar gyfer y Chweched Senedd.

 

Mae rhagor o wybodaeth am yr adolygiad hwn, gan gynnwys ein pedwar prif argymhelliad, ar gael ar ein gwefan.

 

 

 

In February 2023, we reviewed our strategy for the Sixth Senedd.

 

 

Find out more about the review, including our four key conclusions, on our website.

 

 

Craffu ar Iechyd a Gofal Digidol Cymru

 

 

Scrutiny of Digital Health Care Wales

 

Ar 5 Gorffennaf 2023, gwnaethom gyhoeddi adroddiad ar y cyd â’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar ein gwaith craffu ar Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

 

Rydym wedi gofyn am ymatebion ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru, a byddwn yn cynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn yn ddiweddarach eleni.

 

 

 

On 5 July 2023, we published a joint report with the Public Accounts and Public Administration Committee on our scrutiny of Digital Health and Care Wales.

              

 

We have asked for written responses from the Welsh Government and Digital Health and Care Wales and will be holding a Plenary debate later in the year.

 

 

 

 

 

 

 

 

Canserau gynaecolegol

 

 

Gynaecological cancers

 

Mae’r gwaith o gasglu tystiolaeth gan randdeiliaid bellach wedi dod i ben, a byddwn yn clywed gan y Gweinidog yn yr hydref cyn cyhoeddi ein hadroddiad.

 

Fel rhan o’r ymchwiliad hwn, rydym wedi bod yn gweithio gyda Tenovus Cancer Care i sicrhau bod lleisiau menywod wrth galon yr ymchwiliad. Mae ein tîm Ymgysylltu â Dinasyddion wedi recordio cyfres o gyfweliadau fideo i roi cyfle i fenywod rannu eu profiadau. Gallwch ddarllen am eu profiadau a gwylio’r fideos perthnasol ar flog y Senedd.

 

 

 

Evidence gathering from stakeholders is now complete, and we will be hearing from the Minister in the autumn before reporting.

 

As part of this inquiry, we have been working with Tenovus Cancer Care to ensure women’s voices were at the heart of the inquiry. Our Citizen Engagement Team has recorded a series of video interviews giving women the chance to tell their stories. You can read more about their stories and watch the videos on the Senedd blog.

 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

Betsi Cadwaladr University Health Board

 

Rydym wedi cytuno i weithio gyda’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i barhau i gadw golwg ar faterion sy’n gysylltiedig â mesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

Ym mis Gorffennaf 2023, gwnaethom ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Chadeirydd Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ofyn am ragor o wybodaeth ac eglurder.

 

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith ar y mater hwn ar gael ar ein gwefan.

 

 

We have agreed to work with the Public Accounts and Public Administration Committee to maintain an active watching brief on issues relating to special measures at Betsi Cadwaladr University Health Board (BCUHB).

 

 

In July 2023, we wrote to the Minister for Health and Social Services and the Interim Chair of BCUHB to seek information and clarification.

 

 

 

 

You can keep up with our work on this issue on our website.

 

Gwaith arall y Pwyllgor

 

 

Other Committee activity

 

Disgwylir i’r canlynol fod ymhlith ein gwaith yn ystod tymor yr hydref:

 

·         Sesiwn dystiolaeth gydag academyddion ar fodelau Ewropeaidd o iechyd a gofal cymdeithasol.

·         Gwaith craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016

·         Gwaith craffu cyffredinol ar y Gweinidogion sy’n gyfrifol am iechyd a gofal cymdeithasol

 

 

Gallwch ddod o hyd i fanylion am waith y Pwyllgor hyd yn hyn – ynghyd â'i flaenraglen waith – ar ein gwefan.

 

Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Pwyllgor drwy ein dilyn ar Twitter yn @seneddiechyd.

 

Rydych yn cael yr e-bost hwn gan eich bod wedi gofyn yn flaenorol am gael gwybod am ymchwiliadau newydd y Pwyllgor.

 

 

Os nad ydych am gael yr hysbysiadau hyn mwyach, rhowch wybod inni drwy anfon neges at: SeneddIechyd@senedd.cymru

 

 

 

Our work during the autumn term is expected to include:

 

·         Evidence session with academics about European models of health and social care

·         Post-legislative scrutiny of the Nurse Staffing Levels (Wales) Act 2016

·         General scrutiny of the Ministers with responsibility for health and social care

 

 

 

You can find details of our work to date, and our upcoming work programme on our website.

 

 

You can also keep up with the Committee’s work by following us on Twitter at @seneddhealth

 

 

 

You are receiving this email as you have previously asked to be notified of new Committee inquiries.

 

 

If you no longer wish to receive these notifications, please let us know at SeneddHealth@senedd.wales